User talk:Kymro

From Uncyclomedia, the UnMeta-wiki
Jump to: navigation, search

.

Noswaith dda[edit]

Dwyt ti heb gyfrannu i UnMeta ers 2008 felly mae'n debyg na fyddi di'n ymateb i fi, ond mae cwestiwn neu ddau gyda fi.

Rwyt ti wedi gofyn am Uncyc Cymraeg ac nawr mae'n bodoli yma (fel rwyt ti'n gwybod?). Ar hyn o bryd does neb sy'n cyfrannu yna ar wahân i fi; dw i'n weinyddwr a biwrocrat hefyd achos bod angen rhywun i ddileu'r tudalennau sbam ac mae'r gweinyddwyr eraill wedi gadael y wici am y rhan fwyaf. Beth dw i eisiau gwybod yw wyt ti wedi dechrau'r Uncyc/Celwyddoniadur Cymraeg? Siôn Blewyn Coch wyt ti?

Os wyt, fe hoffwn i wybod pam wyt ti wedi gadael Celwyddoniadur. Fyddaf i ddim dy orfodi i ddod yn ôl ond mae angen mwy o ddefnyddwyr arnon ni sy'n siarad Cymraeg, ac rwyt ti'n dweud dy fod yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Fe hoffwn i wybod hefyd pam mae'r holl ddefnyddwyr wedi gadael y wici. Mae 21 defnyddiwr cofrestredig heb gynnwys y pyped hosan a'r spambots ond nawr does dim ond 3 defnyddiwr sy'n weithgar, a does dim ond un o'r rhain - fi, Llwy-ar-lawr - sy'n siarad Cymraeg. Efallai nad dy fod yn gyfarwydd â'r rheswm ond os wyt, wnei di ei dweud wrthof i?

Diolch os wyt ti wedi darllen yr uchod. Llwy ar lawrlogimalpedie:en:be:ga:la:ru:sco: 22:07, 15 July 2013 (UTC)